top of page

Amdanom ni

Fe sefydlwyd “Maeth” rai blynyddoedd yn ôl gan nifer o Gristnogion sy’n byw ac yn gweithio yn y maes amaethyddol. Dwy nôd eglur sydd gennym- i roi cyfle i Gristnogion sy’n gysylltiedig a’g amaethyddiaeth i ddod ynghÅ·d i fwynhau gweinidogaeth Gair Duw a chymdeithas cyd-gristnogion. Mae’n hysbys fod y byd amaethyddol yn gallu bod yn faes arbennig o unig ac mae hynny’n dwyn ei heriau ei hun, yn feddyliol ac yn ysbrydol. Rydym hefyd yn awyddus i gael cyfle i rannu’r Efengyl hefo’n cyd-amaethwyr. Fel hefo pob cylch arall o fywyd, erbyn hyn, yng Nghymru, mae yna anwybodaeth sylfaenol am gynnwys yr Ysgrythur a diffyg dealltwriaeth o’r Efengyl. Felly, y bwriad ydi creu cyfle i wahodd cyd- amaethwyr ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant i ddod i glyw yr Efengyl er mwyn cael cyfle i drafod y Ffydd ac ennill pobol i’r Deyrnas.

Digwyddiadau

Swper a sgwrs yng nghwmni Aled Jones, cyn-lywydd NFU Cymru.

"Boar's Head", Caerfyrddin. Nos Fercher, Mehefin 24ain am 7.00.
a7ad59d6-3dfb-46ef-b5de-9bfe80337d5a_1200.jpg
Cysylltwch i archebu lle.

Cysylltwch gyda ni

01766 000000

  • Facebook
  • Instagram

Diolch am yrru neges

bottom of page